Charles Grodin | |
---|---|
Charles Grodin yn 2013 | |
Ganwyd | Charles Sidney Grodin 21 Ebrill 1935 Pittsburgh |
Bu farw | 18 Mai 2021 o bone marrow cancer Wilton |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | sgriptiwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, llenor, digrifwr, actor |
Plant | Nick Grodin |
Gwobr/au | Gwobr Emmy 'Primetime' |
Actor o'r Unol Daleithiau oedd Charles Grodin (21 Ebrill 1935 – 18 Mai 2021) sydd yn nodedig am ei berfformiadau di-wên mewn ffilmiau comedi.
Ganed yn Pittsburgh, Pennsylvania, i deulu Iddewig.[1] Astudiodd actio ym Mhrifysgol Miami, ond gadawodd heb raddio. Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Chwaraedy Pittsburgh. Wedi hynny, symudodd i Efrog Newydd i astudio yn yr Actors Studio, tra'n gweithio fel gyrrwr tacsi a gwarchodwr. Cafodd fân-rannau yn y theatr ac ar y teledu, a gweithiodd yn gynorthwy-ydd i'r cyfarwyddwr Gene Saks. Ymddangosodd ar theatr Broadway am y tro cyntaf ym 1965 yn y gomedi ramantaidd Tchin-Tchin, yn serennu Anthony Quinn, ym 1965. Ymddangosodd mewn 65 o benodau o'r sioe sebon The Young Marrieds ym 1965, ac ysgrifennodd i'r sioe gudd-gamera Candid Camera. Cyd-ysgrifennodd a chyfarwyddodd sioe gerdd ddychanol, Hooray! It’s a Glorious Day … And All That, ym 1967.[2]
Un o'i rannau cyntaf ar y sgrin fawr oedd obstetrydd yn y ffilm arswyd Rosemary's Baby (1967). Cynigwyd iddo ran fawr yn The Graduate (1967) ond fe'i gwrthododd oherwydd y dâl isel o'i chymharu â'i gyflog o'i waith teledu. Codwyd y dâl, a chafodd Grodin glyweliad ar gyfer y rôl, ond cafodd ei wrthod yn ei dro gan gynhyrchwyr y ffilm am ddiffyg cydweithio.[2] Aeth y rhan i Dustin Hoffman, a bu'r ffilm honno, a gyfarwyddwyd gan Mike Nichols yn hynod o lwyddiannus. Ymddangosodd Grodin mewn rhan gefnogol yn Catch-22 (1970), un arall o ffilmiau Nichols, a daeth yn gyfaill i un o'i gyd-actorion, y cerddor Art Garfunkel. Grodin oedd cyfarwyddwr a chynhyrchydd rhaglen arbennig o'r enw Simon & Garfunkel: Songs of America, a ddarlledwyd ar sianel CBS.
Derbyniodd Grodin sylw o'r diwedd wrth gyd-serennu â Cybill Shepherd yn y ffilm gomedi ramantaidd The Heartbreak Kid (1972), a ystyrir yn brif berfformiad ei yrfa. Er gwaethaf llwyddiant The Heartbreak Kid, methiant oedd ei ffilm nesaf, y gomedi gyffrous 11 Harrowhouse (1974), a na fyddai Grodin yn cyrraedd statws prif actor fel nifer o'i gyfoedion. Dychwelodd at rannau cefnogol, yn aml dynion drwg neu ffwyliau, er enghraifft yn King Kong (1976) ac Heaven Can Wait (1978). Cafodd brif ran mewn comedi ramantaidd arall, Thieves (1978), a addaswyd o ddrama a gyfarwyddwyd a chynhyrchwyd gan Grodin ei hun ar Broadway, ond ni chafodd y ffilm fawr o glod. Ar y llwyfan, serennodd gyferbyn Ellen Burstyn yn Same Time, Next Year (1975) ar Broadway.
Ers dechrau'r 1970au bu Grodin yn wyneb gyfarwydd ar sioeau sgyrsio, yn gyntaf fel gwestai pob mis ar The Tonight Show Starring Johnny Carson, ac yn ddiweddarach ar Late Night with David Letterman. Wrth ymddangos ar y sioeau hyn, byddai Grodin yn esgus bod yn anghyfeillgar ac yn ymateb yn groendenau i gwestiynau'r cyfwelydd.[3] Cafodd perfformiadau di-wên Grodin eu hystyried yn ddarllediadau "cwlt", a byddai nifer o wylwyr yn cael eu twyllo gan ei ffug-ymddygiad ac yn ysgrifennu at y sianel deledu i gwyno amdano.[2]
Grodin a Diana Rigg oedd y prif actorion dynol yn The Great Muppet Caper (1981). Un o'i berfformiadau mwyaf poblogaidd oedd yn y ffilm gomedi Midnight Run (1988), fel cyfrifydd ar ffo yn cael ei hebrwng ar draws yr Unol Daleithiau gan heliwr bownti (a bortreadir gan Robert De Niro). Yn y 1990au, ei brif lwyddiant oedd yn portreadu'r tad yn Beethoven (1992) a Beethoven's 2nd (1993), ffilmiau comedi teuluol am gi Sant Bernard. Cyflwynodd sioe sgyrsio ar sianel CNBC, The Charles Grodin Show, ym 1995–96, a bu'n ohebydd i'r rhaglen newyddion 60 Minutes II ar CBS yn 2000. Cafodd ambell ran yn ystod ei flynyddoedd olaf, gan gynnwys yn y sioe gomedi sefyllfa Louie (2014) a'r ffilm The Comedian (2016).
Ysgrifennodd sawl llyfr, gan gynnwys yr hunangofiant It Would Be So Nice If You Weren’t Here: My Journey Through Show-Business (1989). Priododd ddwywaith, yn gyntaf i Julie Ferguson ac yna, wedi ysgariad, i Elissa Durwood ym 1983.[2] Cafodd un ferch, Marion, o'i briodas gyntaf, ac un mab, Nicholas, o'i ail briodas.[3] Bu farw Charles Grodin yn ei gartref yn Wilton, Connecticut, o ganser mêr yr esgyrn, yn 86 oed.[4]